Croeso i Wefan
Cyngor Tref Pontardawe.
Mae Pontardawe
yn dref wledig 7 milltir i'r gogledd o Abertawe a 4 milltir
o draffordd yr M4 gyda heolydd cyswllt da.
Mae'n
ganolfan ddelfrydol i bobl sydd eisiau ymweld a Chastell
Nedd, Abertawe,Bro Gwyr, Llanelli, Caerfyrddin a Pharc
Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer pleser neu waith.
Nid oes un o'r lleoedd yma fwy na 45 munud i ffwrdd.
Gorsaf
dren - Abertawe neu Gastell Nedd : Cymerwch un o'r bysiau
lleol o'r gorsafoedd. Ceir Cysylltiadau aml i Bontardawe.
Fodd
bynnag gellir chwiloto am y cyfoeth o hanes diwydiannol
ym Mhontardawe, yn ogystal ag ymweld a'n coedwigoedd hynafol,
neu droedio ar lan y camlesi llonydd.
Os yw'ch
diddordeb ym myd y campau, mae gennym Ganolfan Hamdden
a chyfleusterau gwych a phwll nofio o safon . Yn wir ,mae
yma rhywbeth at ddant pawb!
Ar garreg
y drws ceir Cwrs Golff gwych (18 twll).
Cyngor Tref Pontardawe
Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) Adran 1(4) a Deddf 1972, Trefnlen 12, Paragraff 26(2)(a) y Llywodraeth Leol
Yn unol â gofynion y ddarpariaeth statudol uchod, trwy hyn rhoddir rhybudd y cynhelir cyfarfod ac Cyngor Tref Pontardawe ar ddydd Llun 11 Ionawr 2021 am 6.45yh trwy lwyfan rhithwir. Os yw Aelodau o’r Cyhoedd yn dymuno codi mater, dylent e-bostio’r Clerc a bydd y Clerc yn darllen y neges e-bost yn ystod y cyfarfod. (E-bost pontardawetc@aol.co.uk). Cyhoeddir copi drafft o gofnodion y cyfarfod ar wefan Cyngor y Dref cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.
Deborah Phillips
Town Clerk |
|
PACT Pontardawe 2020 - Wedi'i ganslo
PACT Trebannws 2020 - Wedi'i ganslo |
|
Mae eich fferyllydd yn ffynhonnell gymorth a chyngor ddefnyddiol am amrywiaeth o achosion nad ydynt yn rhai brys a gallwch eu trin heb fynd at eich meddyg teulu neu ysbyty lleol.
Canllaw Dr Tomos i'r Fferyllfa. |
|
YSBYTY
AGOSACH AG ADRAN BRYS A DAMWEINIAU - Ysbyty Treforus :
Ysbyty â chydnabyddiaeth led-led Cymru am ei
hadrannau Llosgiadau a Chardiac. |
Rhif
Ffon : 01792 702222 |
|
Yr ysbyty agosaf gydag uned mân anafiadau yw - Ysbyty Castell Nedd Port Talbot |
Gweler y wefan sbuhb.nhs.wales |
|