Ionawr 2012 - Rhifyn 10

Croeso i rifyn Ionawr o gylchlythyr y Cyngor Tref

Blwyddyn Newydd Dda i bob un ohonoch

Gobeithiaf eich bod i gyd wedi cael amser bendigedig heb ei gorwneud hi dros y gwyliau!!

Cafwyd amser da iawn gan bawb yn ystod 'Winterfest' ym mis Rhagfyr, er gwaetha'r tywydd, gyda Santa unwaith eto'n cwrdd â'r plant ym Mhontardawe.

Winterfest

Ond mae tymor y gwyliau drosodd . . . a phawb yn ôl yn y gwaith ac yn edrych ymlaen at wyliau'r haf.

Gall plant Cefn Llan edrych ymlaen at gael amser da'r Haf yma gan fod Cyngor y Dref mewn cydweithrediad gyda'i bartneriaid, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, NPT Homes, Cymdeithas Trigolion Cefn Llan, pwyllgor Neuadd ARCH a chlwb garddio Rhyd y Fro, wedi ennill grant i adeiladu ardal chwarae yng Ngelliderw ym Mhontardawe.

Mae Cronfa'r Loteri Fawr wedi rhoi i'r prosiect o'r grant Pobl a Llefydd o £59,116, gyda £50,000 ychwanegol gan WREN, a'r balans o £1,500 yn cael ei dalu gan Neuadd ARCH a £5,500 o Gyngor Tref Pontardawe, sydd hefyd wedi cytuno i fod yn gyfrifol am yswiriant a gofal o'r parc yn y dyfodol.

Mae cronfa'r Loteri Fawr yn dosbarthu hanner arian at achosion da'r Loteri Genedlaethol dros y DU. Mae'r gronfa'n ymroddedig i ddod â gwelliannau gwir i gymunedau a bywydau'r bobl mewn mwyaf o angen.

Busnes nid am elw yw WREN sy'n rhoi grantiau i brosiectau cymunedol oddi ar arian roddir gan Waste Recycling Group (WRG) i Gronfa Cymunedau Tirlenwi.

Pontardawe

Ac nid yw plant Trebannws wedi cael eu anghofio gan fod yr hen adeilad toiledau ym Mharc Trebannws wedi cael ei adnewyddu. Gyda gwaith di-flino Angela a'i thîm o'r Clwb Rygbi wrth ymbilio a menthyg er mwyn adnewyddu'r adeilad i stondin lluniaeth, a fydd yn cynnig lluniaeth i'r gwylwyr ac aelodau'r tîmau yn ystod y gemau yn y dyfodol.

Hoffai Angela ddiolch yr holl fusnesau a'r unigolion a roddodd o'u hamser, ymdrechion, deunyddiau, sgiliau ac offer er mwyn gwneud y prosiect yma'n realiti.

Angela - Mharc Trebannws

Hoffai Cyngor y Dref hefyd ddatgan gymaint gafon nhw eu hargraffu gan y gwaith ac ymroddiad sydd wedi mynd tuag at y prosiect ac y mae'n fwy na pharod i roddi'r adeilad am ddim at achos mor dda.

Lwc fawr i'r dyfodol!

A jyst rhag ofn...Mae yna nifer o bobl ifanc allan fan acw gyda dim byd i'w wneud...Felly beth am drio...

Prosiect PONTY

Prosiect PONTY

LLE'R BOBL

Creuwyd Prosiect PONTY er mwyn rhoi adnoddau ychwanegol a chyfleusterau ychwanegol i bobl ifanc yr ardal.

Hoffech chi ei logi?

Gellir llogi ein cyfleusterau yn ystod y dydd ac ar ben-wythnosau ar gyfer Cyfarfodydd, sesiynau Grŵp a Phartïon - Rhowch alwad i ni!

Byrddau Pŵl

Beth sydd yna????

Byrddau Pŵl, bwrdd tenis bwrdd, teledu sgrîn lydan, Cyfrifiaduron, WIFI AM DDIM, gemau, consol, cegin, man cyfarfod, byrddau celf.

Clwb Ieuenctid Ponatardawe a'r Fro

Cyfarfod nosweithiau Llun, Mercher a Gwener ac yn ystod gwyliau'r ysgol.

6pm to 8pm

Cyfrifiaduron

Siop fwyd, gemau, cyfrifiaduron, celf a chreft, cerddoriaeth, gyda'r cyfle i gwrdd gydag eraill mewn awyrgylch cyfeillgar.

Cyswllt: Debby Phillips
Ysgrifennydd Cwmni - Prosiect PONTY i logi
Herbert Street, Pontardawe
Ffôn: 01792 863422
Ebost: pontardawetc@aol.co.uk


<< Newyddion

 

© Pontardawe Town Council 2006