Mehefin 2010 - Rhifyn 4

MAER NEWYDD I’R CYNGOR TREF

Yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, cynhaliwyd ar ddydd Llun y 10fed o Fai 2010 yn Neuadd Gymunedol ARCH , Heol Cefn Llan, Pontardawe, ymadawodd y Maer am y flwyddyn 2009/2010, Cynghorydd Emlyn Williams, ei swyddfa a chroesawyd y Maer newydd - Cynghorydd Jean Bowen o ward Trebannws Cyngor Tref Pontardawe. Y Dirprwy Faer yw’r Cynghorydd Bob Williams, sy’n adnabyddus i bobl Pontardawe fel Cyn-gynghorydd Sir Fwrdeistrefol Pontardawe.

Mae yna newidiadau wedi bod i’r Cyngor hefyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o Gynghorwyr yn cael eu newid.

Mae rhestr o’r Cynghorwyr a’u manylion cyswllt ar gael o wefan y Cyngor Tref, pontardawetowncouncil.org, yn ogystal ag ar hysbysfwrdd swyddfeydd y Cyngor Tref, 4 Stryd Herbert, Pontardawe. Roedd y ‘Spring Fest’, a drefnwyd gan y Siambr Masnach, gyda mewnbwn y Cyngor Tref a Chanolfan y Celfyddydau, yn llwyddiant ac edrychwn ymlaen i’r ŵyl nesaf yn yr Haf.

Mae’r Cyngor Tref yn parhau i weithio gyda budd y cyhoedd ac wrth gadw hyn mewn cof, mae gwaith uwchraddio cyfleusterau wedi bod ym Mharc Ynysmeudwy, ac mae yna waith cyfredol ym Mharc Trebannws. Yn y dyfodol agos, fe fydd hefyd pont newydd yng Nglyn Cwmdu yn ogystal â llwybr newydd. Fe fydd yr adeiladau segur ar y Groes yn cael eu ddymchwel a gobeithiwn fydd yr ardal yn cael ei dirlunio. Fe ddylai hyn sicrhau bod y fynedfa i Bontardawe yn fwy croesawgar.

Parhau gyda’r thema flodeuog i Bontardawe

Mae Cyngor Tref Pontardawe yn parhau gyda’r basgedi blodau eto dros yr Haf gan eu bod wedi bod yn llwyddiant mawr llynedd.

Roedd gardd Stryd Herbert hefyd yn llwyddiant, yn enwedig yn ystod y Gwanwyn gyda digonedd o ddaffodiliau. Nid oedd basgedi’r Gaeaf mor ysblennydd, ond roedd hynny oherwydd y Gaeaf caled gawsom. Er hynny, fe wnaethant flodeuo tuag at ddiwedd y tymor pan ddaeth y tywydd yn well, roedd hyn felly’n golygu ni welsom unrhyw liw tan ddiwedd y tymor. Hoffai’r Cyngor wybod barn y cyhoedd am roi basgedi i fyny Gaeaf nesaf. Gadewch eich sylwadau ar ein gwefan.

<< Newyddion

 

© Pontardawe Town Council 2006