Ionawr 2010 - Rhifyn 3

Ail ddosbarthiad y basgedi blodau

Er gwaethaf y tywydd drwg, mae’r basgedi blodau yn beth anodd ei ddilyn. Fe wnaethom adael y basgedi i fyny mor hir a fedrwn er mwyn mwynhau'r lliwiau arbennig o binc i borffor, oren i goch i felyn â gwyn gydag arlliw o geirios ynddo.

Mae’r basgedi gaeaf yn fwy cymedrol oherwydd eu diffyg lliwiau hafaidd. Rydym wedi plannu daffodils yng ngardd Stryd Herbert gan obeithio am arddangosiad hyfryd o ddaffodiliau yn yr ardd, yn ogystal ag ar hyd y llwybr wrth ymyl y bont yn Stryd Herbert. Gobeithiwn fydd hyn yn olygfa hardd iawn erbyn Gwanwyn 2010.

Ysgol Gymunedol Cwmtawe

Mae Ysgol Gymunedol Cwmtawe wedi elwa o sedd fel rhodd o Gyngor y Dref, felly gall y disgyblion fwynhau’r awyr iach yn ystod amseroedd egwyl.

Parc Ynysmeudwy

Mae Parc Ynysmeudwy wedi cael cyfarpar newydd i blant bach. Mae yna dri ‘springy’ newydd wedi cael ei rhoi at ei gilydd yn ogystal ag arwynebedd diogelwch.

Mae yna hefyd ddwy sedd a chadair gyfunol wedi cael eu hadeiladu gydag un yn caniatáu mynediad i gadair olwyn. Yn ogystal, mae yna ddyfais i annog cŵn i beidio dod i mewn i’r parc wedi cael ei rhoi ar y glwyd flaen. Rydym hefyd yn gofyn i breswylwyr Pontardawe i beidio mynd â’u cŵn i mewn i’r parciau.

Parc Trebannws

Mae Parc Trebannws wedi elwa o arwyneb tarmac newydd lle gall pobl ifanc ei ddefnyddio fel man i sgrialu. Fe fydd eisteddle yn cael ei ychwanegu yn hwyrach.

Rydym dal yn llwyddo i gael tawelwch wrth fandaliaid ym mharc Trebannws o ganlyniad i’r CCTV.

Mi fydd unrhyw un yn achosi difrod maleisus yn cael eu herlyn.

Ceisiadau am Grantiau

Peidiwch ag anghofio i roi eich cais am gymorth drwy grant erbyn Chwefror 2010. Fe fydd angen llythyr yn amlygu sut dymunwch wario’r arian a set o gyfrifon cyfredol cyn gall y Cyngor ystyried y cais. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried.

Roedd y Gwŷl Aeaf unwaith eto yn llwyddiant gan oleuo’r goleuadau Nadolig a’r newyddbeth o sglefrio iâ. Siomedig oedd y glaw ond roedd pawb i’w weld wedi mwynhau. Roedd y rhodfa yn arbennig unwaith eto eleni. Llongyfarchiadau i’r Siambr Fasnach a oedd wedi cydweithio gyda Chanolfan y Celfyddydau, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Tref Pontardawe. Dyma bartneriaeth yn gweithio ar ei orau.

<< Newyddion

 

© Pontardawe Town Council 2006