AWST 2009 - Rhifyn 2
BASGEDI CROG
Cafwyd ymateb da iawn i’r basgedi crog ac, ar y cyfan, mae pobl yn hapus iawn gyda nhw. Bu un neu ddau ymateb negyddol ond mae’r rhan fwyaf yn credu bod y dref yn awr yn cael ei charu. Dilynnir y basgedi haf gan fasgedi gaeaf maes o law.
GARDD STRYD HERBERT
Mae’r ardd yng nghanol Stryd Herbert hefyd wedi cael ei phlannu. Mae hon yn wahanol i’r rhan fwyaf o erddi trefol gan i ni geisio bod yn fwy creadigol gyda’r planigion o ran eu lliw a’u ffurf. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn fythwyrdd a bydd pob un (hyd yn oed y rhai sy’n colli eu dail yn y gaeaf) heb ddail am amser byr iawn. Yn yr hydref byddwn yn tan-blannu’r dail gyda Chennin Pedr. Prynnir rhain gan dyfwyr a chynhyrchwyr o Gymru yn unig. Polisi Cyngor y Dref yw sicrhau bod yr arian mae’r cyngor yn ei wario’n aros o fewn Cymru ac mor lleol â phosib.
PARC TREBANNWS
Nid yw’r seddau newydd wedi eu gosod yn y parc, am fod y gwaith tarmac oedd ei angen cyn eu gosod wedi cael ei ohirio; ond, gobeithir gweld y seddau newydd cyn bo hir. Mae fandaliaeth yn y parc yn isel iawn diolch i’r CCTV.
Y DANFFORDD O STRYD HERBERT I’R PARC ADWERTHU NEWYDD AR HYD LLINELL Y GAMLAS
Cafodd y danffordd ei glanhau ac fe baentiwyd y waliau. Adiwyd paent gel yn erbyn graffiti i geisio atal paentio wal. ’Roedd rhoi’r paent gel yn anodd iawn, oherwydd yr amser basiwyd rhwng paentio dros y graffiti a gadael i’r paent sychu cyn mynd ati i ychwanegu’ gel. Ar yr ymdrech gyntaf, bu raid gadael y waliau i sychu dros nos, a phan ddychwelodd y peintwyr y diwrnod canlynol i roi’r gel arnynt, ’roedd waliau’r dan-ffordd, gan gynnwys y to, wedi ei chwistrellu â phaent. Bu raid i’r peintwyr roi haenen drwchus o baent ac aros am ddiwrnod cyfan i’r paent sychu ac wedyn ychwanegu’r gel yn erbyn graffiti cyn gadael ar ddiwedd y dydd.
Er hynny, rhannol bu llwyddiant y fenter hon gan nad yw’r gel yn rhoi stop ar y graffiti ond y mae’n ei wneud yn haws i’w lanhau, sy’n golygu y gellir gwneud hyn yn fwy aml.
’Roedd hon yn fenter ar y cyd rhwng Cyngor Tref Pontardawe a’r Cyngor Bwrdeistref.
CEISIADAU AM GRANTIAU
Bydd ceisiadau am gymorth grantiau gan gymdeithasau o fewn ardal Cyngor y Dref yn cael eu hystyried ym mis Chwefror 2010. Dylai grwpiau sydd am ymgeisio anfon cais, ynghyd â mantolen cyfredol at:
Cyngor Tref Pontardawe
PO Bocs 556
ABERTAWE SA8 4WL
DIGWYDDIADAU I DDOD
Bydd Cyngor y Dref unwaith eto’n cynorthwyo’n ariannol Gŵyl Pontardawe ym mis Awst ac hefyd Busnes a Masnach Pontardawe gyda’u Gwyliau Haf a Gaeaf 2009 yn dilyn y llwyddiant ysgubol gafwyd yng Ngaeaf 2008.
Gwasanaeth Dinesig Cyngor Tref Pontardawe
Dymuna’r Maer y Cynghorydd Emlyn Williams a Mrs Betty Williams wahodd pawb i’r Gwasanaeth Blynyddol yn Eglwys Tabernacl, Stryd Thomas, Pontardawe, ddydd Sul, Medi 20fed am 3.00pm
<< Newyddion