Ebrill 2009 - Rhifyn 1

LLIW O’R DIWEDD I BONTARDAWE

Mae Cyngor Tref Pontardawe am osod basgedi crog yn ystod haf 2009.  Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud ynglyn â chynllun lliw ond mae’r bachau wrthi’n cael eu gosod.  Mae gwaith gosod y bachau wedi cael ei gadw o fewn y gymuned er mwyn, mewn ffordd fechan, arbed arian yn ystod yr amser ariannol anodd mae pawb yn awr yn ei deimlo.

Hoffai Cyngor y Dref hefyd fod yn gyfrifol am welyau blodau’r Stryd Fawr yn ogystal â’r un ar Stryd Herbert, ond hyd nes i ymgynghoriad adfywiad Cyngor Castell-nedd Port Talbot orffen nid ydym yn gwybod os bydd y gwelyau yma ar gael yn y dyfodol.

Mae Cyngor y Dref wedi ymgymryd â chyfrifoldeb am ran fechan o’r llwybr llusg, rhwng y bont yn Stryd Herbert a’r fynedfa i Stryd Holly, a bydd yn ei gadw’n daclus yn y dyfodol.  ’Rydym hefyd wedi plannu cennin Pedr ar hyd y darn yma felly dylem weld tipyn o liw maes o law.

Siambr Masnach a Busnes

Mae Cyngor y Dref wedi gweithio’n glòs iawn gyda’r Siambr Masnach a Busnes newydd trwy roi cefnogaeth a thrwy rannu syniadau.  Os hoffai unrhyw berson busnes o Bontardawe a’r ardal ymuno, cysylltwch â John Jones yn y Siop Gilt (Kilt Shop).

Parc Trebanws

Gosodwyd CCTV o fewn Parc Trebanws er mwyn ceisio atal y fandaliaeth o fewn yr ardal.

Bu Clwb Pel Droed Trebanws yn ddigon caredig i ganiatáu gosod yr offer o fewn eu hystafelloedd newid.  Hyd yn hyn, mae’r adnodd newydd hwn i arfdy Cyngor y Dref yn ymddangos i fod yn llwyddo i roi amddiffyniad gofynnol i’r ardal.

Bydd y Cyngor yn awr yn edrych tuag at adnewyddu’r ardal er mwyn gwneud y parc yn fan lle gall pawb ei fwynhau, yn hen ac yn ifanc.

Bydd seddau newydd yn cymryd lle’r hen rai cyn bo hir ac hefyd bydd yna welliannau eraill yn digwydd wrth i amser fynd ymlaen.

ARCHEBIANT 2009-2010

Mae Cyngor y Dref yn ymwybodol iawn o’r pwysau ariannol sydd ar nifer o bobl ar hyn o bryd.  Er mwyn helpu poblogaeth yr ardal, yn gyffredinol, penderfynwyd peidio codi’r archebiant yn ystod 2009/10, ond ei gadw yr un â’r flwyddyn flaenorol.  Mae Cyngor y Dref am sicrhau eu bod yn cwrdd â’u holl dargedau.

<< Newyddion

 

© Pontardawe Town Council 2006