Croeso i Wefan Cyngor Tref Pontardawe.

Mae Pontardawe yn dref wledig 7 milltir i'r gogledd o Abertawe a 4 milltir o draffordd yr M4 gyda heolydd cyswllt da.

Mae'n ganolfan ddelfrydol i bobl sydd eisiau ymweld a Chastell Nedd, Abertawe,Bro Gwyr, Llanelli, Caerfyrddin a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer pleser neu waith. Nid oes un o'r lleoedd yma fwy na 45 munud i ffwrdd.

Gorsaf dren - Abertawe neu Gastell Nedd : Cymerwch un o'r bysiau lleol o'r gorsafoedd. Ceir Cysylltiadau aml i Bontardawe.

Fodd bynnag gellir chwiloto am y cyfoeth o hanes diwydiannol ym Mhontardawe, yn ogystal ag ymweld a'n coedwigoedd hynafol, neu droedio ar lan y camlesi llonydd.

Os yw'ch diddordeb ym myd y campau, mae gennym Ganolfan Hamdden a chyfleusterau gwych a phwll nofio o safon . Yn wir ,mae yma rhywbeth at ddant pawb!

Ar garreg y drws ceir Cwrs Golff gwych (18 twll) .

Amseroedd cau cynnar : Dydd Sadwrn
YSBYTY AGOSACH AG ADRAN BRYS A DAMWEINIAU - Ysbyty Treforus : Ysbyty â chydnabyddiaeth led-led Cymru am ei hadrannau Llosgiadau a Chardiac.
Rhif Ffon : 01792 702222
 
© Cyngor Tref Pontardawe 2001